Bod yn gryf
I aros yn iach ac yn ystwyth, mae’n bwysig cynnwys gweithgareddau rheolaidd sy’n cadw’r cyhyrau a’r cymalau yn symud. Bydd gan bobl sy’n defnyddio eu cyhyrau craidd well cydbwysedd, osgo a chryfder.
Nid dim ond ar gyfer ‘pobl sy’n mynd i’r gampfa’ mae ymarfer corff yn addas – gall mynd am dro byr, ymweld â’r siopau, garddio neu ddawnsio i gyd helpu i gryfhau’r cyhyrau.
Mae ymarferion sy’n hybu cryfder a chydbwysedd yn helpu iechyd cyffredinol, hyder a mwynhad, a gallant hefyd helpu i’ch rhwystro rhag syrthio neu faglu. Gall syrthio gael effaith enfawr – yn ogystal â’r problemau corfforol mae’n gallu eu hachosi, gall hefyd wneud pobl yn ynysig a gwneud iddynt fod ofn mynd allan a syrthio eto.
Gall hyd yn oed pobl sydd wedi mynd yn fwy bregus adfer eu cryfder a’u hyder i fyw bywyd egnïol ac iach yn eu cymunedau.