Bridgestart
Mae Bridgestart yn borth asesu ar gyfer pennu anghenion gofal tymor hir. Mae’n wasanaeth galluogi Gofal yn y Cartref am hyd at 6 wythnos gydag elfen o Therapi Galwedigaethol er mwyn manteisio i’r eithaf ar weithio at sicrhau annibyniaeth a rhyddhau pobl yn ddiogel o’r ysbyty.
Pwy all gyfeirio at y gwasanaeth?
Nyrsys Ysbytai, Meddygon, Therapyddion a Gweithwyr Cymdeithasol er mwyn cefnogi’r broses o ryddhau pobl i’w cartrefi.
Yn y gymuned byddai pob achos cyfeirio yn digwydd drwy Bwynt Mynediad Cyffredin y gall unrhyw un ei ddefnyddio. Wedyn byddai’r achosion hyn yn cael eu dosbarthu i’r gwasanaeth mwyaf priodol.
Meini prawf cyfeirio/meini prawf eithrio
Mae’r meini prawf eithrio’n cynnwys y canlynol:
- Diagnosis o ddementia
- Cyfnod diwedd oes
Pwy fydd yn ymweld â’r bobl hyn?
Byddant yn cael eu gweld gan Therapydd Galwedigaethol, Arweinydd Tîm a staff cymorth Gofal.
Beth all pobl ei ddisgwyl gan y gwasanaeth?
Galluogi elfen gofal yn y cartref er mwyn sicrhau bod gan bobl y lefel gywir o ofal o ran staff i aros yn ddiogel yn y cartref maen nhw’n dymuno aros ynddo.
At bwy mae’r gwasanaeth yn cyfeirio?
Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cysylltu â staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ôl yr angen os bydd unrhyw fater yn codi.
Manylion cyswllt
Pwynt mynediad cyffredin ar 01656 642279