Atal codymau
Nid yw codymau o reidrwydd yn ganlyniad naturiol i heneiddio a gellir atal llawer ohonynt drwy wneud newidiadau syml i’ch ffordd o fyw.
Yn aml, codwm yw’r sbardun i wneud i chi ystyried eich bywyd a manteisio ar y cyfle i wella eich iechyd a’ch ffitrwydd ac atal eich hun rhag syrthio eto.
Nod y wefan hon yw rhoi gwybodaeth i chi i helpu eich hun. Mae’n cynnwys dolenni at wybodaeth am sut i atal codymau, a hefyd at y gwasanaethau codymau sydd ar gael ledled ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lle gallwch gael help os bydd ei angen arnoch chi. Mae’r wefan wedi’i chynllunio i gael ei defnyddio gan gleientiaid, gofalwyr a’u teuluoedd.
Gall Gweithwyr Proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddefnyddio’r wefan i ddod o hyd i’r llwybrau cyfeirio priodol sydd ar gael i reoli’r rheini sy’n syrthio a’r rheini sydd mewn perygl o syrthio.
Mae’r wefan yn cynnwys uwchddolenni i alluogi mynediad hawdd at lwybrau cyfeirio a dolenni at wefannau gwasanaethau priodol eraill sydd ar gael yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.