Heneiddio’n dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae un peth yn gyffredin ymysg pob un ohonom, sef heneiddio, felly er lles pawb mae’n rhaid i ni wneud ein bwrdeistref sirol yn lle i bobl o bob oed sylweddoli eu cyfraniad i gymdeithas a theimlo pwrpas a gwerth i’w bywydau.
Mae Heneiddio’n Dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol i helpu pobl hŷn i barhau’n annibynnol bob dydd a theimlo bod ganddynt gysylltiad â’u cymunedau lleol.
Fe welwch yma wybodaeth i’ch helpu i fyw bywyd gweithgar a boddhaus, yn ogystal â dolenni defnyddiol i fentrau a chefnogaeth ar gyfer pobl hŷn. Darllenwch am grwpiau diddordebau, digwyddiadau a gweithgareddau lleol, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol sy’n berthnasol i anghenion pobl hŷn.
Rydym hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu pobl hŷn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. I weld ein cynllun Heneiddio’n Dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ei gyfanrwydd, cliciwch yma.
Ar ôl penodi Heléna Herklots fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru byddwn yn edrych ar ddiweddaru cynllun Pen-y-bont ar Ogwr i gyd-fynd â’r blaenoriaethau newydd sydd wedi’u datgan.